Caerffosiaeth

Gruff Rhys
앨범 : Yr Atal Genhedlaeth

Adeiladau mileniwm, Mewn ffug alminiwm, Goruwch-ystafelloedd Am hanner miliwn o bunnoedd. Tyfwn adenydd Tra'n yfed Ymennydd, Mewn tafarndai thema A dim golwg o'r Wyddfa Dw i'n byw a bod Dw i'n byw a bod Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Coffi ewynnol, Cyflog derbyniol, Argae uffernol, Sgidiau ffasiynol, Saeri Rhyddion Yn rhedeg byrddion, Cyhoeddus, anweddus, Sefyllfa druenus. Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod, Arnofio yn y bae Yn y baw a'r dod Dw i'n rhan o'r atal genhedlaeth, Ymfudwn o amaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth, O gefn gwlad i Gaerffosiaeth Dw i'n byw a bod, Dw i'n byw a bod, Arnofio yn y bae,Yn y baw a'r dod

관련 가사

가수 노래제목  
Gruff Rhys Gwn Mi Wn  
Gruff Rhys Rhagluniaeth Ysgafn  
Gruff Rhys Y Gwybodusion  
Gruff Rhys Ambell Waith  
Gruff Rhys Ni Yw Y Byd  
Gruff Rhys Candylion  
Gruff Rhys The Court of King Arthur  
Gruff Rhys Lonsome Words  
Gruff Rhys Cycle of Violence  
Gruff Rhys Painting People Blue  




가사 수정 / 삭제

댓글목록

등록된 댓글이 없습니다.